Un Tîm. Un Ddynoliaeth: Anrhydeddu Torwyr Cod y Byd Rygbi o Fae Caerdydd

Bydd rhai o arwyr chwaraeon mwyaf y wlad yn cael eu hanfarwoli mewn gwaith celf parhaol sydd wedi’i gynllunio i sicrhau nad anghofir eu hanesion na stori’r gymuned amlddiwylliannol falch a bywiog a helpodd i’w llunio.

Mae ‘Un Tîm – Un Ddynoliaeth, Anrhydeddu Torwyr Cod y Byd Rygbi o Fae Caerdydd’ yn cael ei lansio ar Ddiwrnod Treftadaeth Chwaraeon, 2020.

Bydd y project yn codi arian i greu tri cherflun fydd yn cael eu dewis o blith 13 seren chwaraeon a wnaeth gyfraniad trawiadol yn chwarae yn Rygbi’r Gynghrair dros y 120 mlynedd diwethaf.

Cafodd pob un o’r tri ar ddeg o enwebeion eu magu o fewn radiws o dair milltir i Fae Caerdydd. Dioddefodd llawer ohonynt ragfarn a hiliaeth cyn gadael Cymru i ddod o hyd i enwogrwydd fel sêr Rygbi’r Gynghrair yng Ngogledd Lloegr.

Cyfrannwch

Helpwch ni i godi’r arian sydd ei angen i greu’r tri darn o waith celf parhaol.

Dod o hyd i’r 3 ar y brig o blith Torrwyr Cod y Byd Rygbi

Mae panel o arbenigwyr wedi cwtogi’r rhestr o 13 enwebai (sef nifer y chwareaewyr mewn tim rygbi’r gynghrair) a gwahoddwyd y cyhoedd i gymryd rhan drwy ddewis eu tri nhw i fod ar y brig.

Mae tri o chwaraewyr enwocaf rygbi’r gynghrair yn hanes y gêm – Billy Boston, Gus Risman a Clive Sullivan – wedi cael eu dewis i addurno cerflun i goffáu Torwyr Cod Bae Caerdydd.

Cytunodd y cyhoedd a phanel arbennig o arbenigwyr ar y triawd a fydd bellach yn cael eu hanfarwoli ar gerflun a fydd yn cynrychioli’r holl chwaraewyr aeth i Ogledd Lloegr o ardal Bae Caerdydd i ddisgleirio yn y gêm 13 bob ochr.

Cynigiwyd rhestr i’r cyhoedd o 13 o gyn-fawrion a aned oll yn ochrau Tiger Bay, Butetown, Grangetown, Adamsdown a Sblot yn ne Caerdydd, a’u gwahodd i bleidleisio dros eu hoff dri.

Yna dyfarnwyd pwyntiau ychwanegol i’r chwaraewyr i gyd am eu llwyddiannau gyrfaol gerbron panel cryf o saith arbenigwr, gan gynnwys capteiniaid presennol timau rygbi’r gynghrair dynion a menywod Cymru, Elliot Kear a Rafique Taylor, yn ogystal â’r anfarwol Jim Mills a Jonathan Davies, a chyflwynwyd y chwe dewis uchaf.

Cawsant gyfle i ddewis eu tri uchaf, gan ennill pwyntiau ychwanegol ar gyfer eu dewisiadau i gwblhau’r broses ddethol. Roedd pob aelod o’r panel yn cytuno â’r bleidlais gyhoeddus ac felly bydd Boston, Risman a Sullivan yn awr yn ymuno ar blinth a fydd hefyd yn cofio’r 10 chwaraewr arall.

Mae angen codi mwy na £300,000 i gwblhau cerflun, a fydd yn cael ei godi yng nghanol ardal Bae Caerdydd. Mae’r gwaith o godi arian eisoes wedi dechrau ac mae Syr Stan yn gobeithio y bydd y cyhoedd yn cefnogi’r apêl mor gryf ag y gwnaethant y pleidleisio. Y gobaith yw y gellir cwblhau’r broses gyfan o fewn dwy flynedd.

Wneud rhodd.

XIII Mawrion Rygbi’r Gynghrair Bae Caerdydd

Ymhlith y 13 o Dorwyr Cod y Byd Rygbi, sydd i gyd yn hanu o ardal Bae Caerdydd a’r cyffiniau mae:

3 enillydd Cwpan y Byd
9 chwaraewr rhyngwladol Prydain Fawr
12 o chwaraewyr rhyngwladol Cymru
3 aelod o Oriel Anfarwolion Rygbi’r Gynghrair
4 aelod o Restr yr Anrhydeddau Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru
7 chwaraewr a enillodd 17 rownd derfynol Cwpan Her

Cafodd y project ei ysbrydoli gan alwadau gan gymunedau Butetown a Bae Caerdydd ehangach am deyrnged briodol i’r chwaraewyr a wnaeth gymaint i wella cysylltiadau hiliol ledled Prydain.

Bydd dyn busnes a dyngarwr, Syr Stanley Thomas OBE, yn ymgymryd â’r rôl fel cadeirydd y pwyllgor codi arian, sydd hefyd yn cynnwys arweinwyr cymunedol o Butetown yn ogystal â chynrychiolwyr o Rygbi’r Gynghrair Cymru ac Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru.

Mae gan y project, sydd wedi’i gynnull gan arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, gefnogaeth lawn y Cyngor. Mae arweinydd y Cyngor hefyd yn is-gadeirydd y pwyllgor.

‘Un Tîm – Un Ddynoliaeth. Mae anrhydeddu Torwyr Cod y Byd Rygbi o Fae Caerdydd yn ennill statws elusennol drwy ffurfio partneriaeth ag ‘Archif Cyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliant – Porth Teigr a’r Byd’, elusen uchel ei pharch sydd eisoes wedi’i sefydlu yng nghanol hen ardal Porth Teigr. Mae’r pwyllgor hefyd yn cael ei gynghori gan Capital Law a Azets Accountants.

Yr Hyn Sydd Ganddynt I’w Ddweud Am Y Project

Nid yw Caerdydd erioed wedi gwneud digon i gydnabod ei mawrion chwaraeon, yn enwedig yng nghymuned Butetown, lle daeth cynifer o chwaraewyr rygbi’r gynghrair gwych. Rhaid inni roi cydnabyddiaeth i’r gymuned hon. Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy ngwahodd i Gadeirio’r pwyllgor ac rwyf am weld y cerflun hwn yn cael ei godi o fewn dwy flynedd. Mae’n hanfodol bod chwaraewyr fel Billy Boston, sydd bellach yn 86 oed, yn gallu ei weld yn cael ei gwblhau o fewn eu hoes. Mae’n bwysig ein bod yn dechrau’r gwaith hwn ar unwaith ac rwyf wedi gwneud cyfraniad ariannol i’w roi ar waith. Ond mae’n broject cymunedol i raddau helaeth ac rwy’n siŵr y byddan nhw, ynghyd â chlybiau ac awdurdodau rygbi’r gynghrair yng ngogledd Lloegr, yn ei gefnogi.

Mae cyflawniadau neilltuol cynifer o chwaraewyr rygbi o bair amlddiwylliannol Bae Caerdydd wedi cael eu hanwybyddu ers gormod o amser. Roeddent nid yn unig yn dod ag anrhydedd iddyn nhw eu hunain, eu dinas a’u cenedl, ond hefyd yn helpu i chwalu rhwystrau hiliaeth ac anghyfiawnder cymdeithasol. Gwnaethant gamu’n hyderus i’r byd ehangach, ac mae eu hesiampl a’u cyflawniadau yn ysbrydoliaeth i ni a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’n bryd i Gaerdydd eu dathlu’n briodol.

Mae cael project fel hwn, sy’n anrhydeddu cynifer o chwaraewyr rygbi’r gynghrair gorau Cymru yn y gorffennol, yn hynod o bwysig. Mae’n drobwynt mawr i ni. Yng Ngogledd Lloegr maen nhw i gyd yn siarad am Borth Teigr a’r chwaraewyr gwych a aeth i fyny i chwarae rygbi’r gynghrair o Gaerdydd. Mae angen inni fyfyrio ar ein gorffennol gwych a’i ddefnyddio fel arwyddbost ar gyfer y dyfodol. Nid dim ond codi cerflun rydyn ni, mae hwn yn broject sydd ag addysg, rhagoriaeth mewn chwaraeon a chyfiawnder cymdeithasol wrth ei wraidd.

Bydd y project hwn yn arf addysgol enfawr i’r bobl ifanc yn ardal Butetown a bydd yn ysbrydoliaeth i bawb. Roedd yr hyn a gyflawnodd y chwaraewyr hyn ar y cae chwarae’n rhyfeddol, ond mae eu campau’n mynd yn ddyfnach o lawer na hynny. Chwaraeodd llawer ohonynt ran yn y gwaith o chwalu rhwystrau cymdeithasol a hiliol. Yn fwy na hynny, profodd pob un ohonynt y gallwch ddod o ardal Butetown a Bae Caerdydd a choncro’r byd.

Fe’m magwyd yn yr un gymuned ym Mhorth Teigr â’r Bostons, y Dixons a’r Freemans. Roedden nhw’n arwyr i ni bryd hynny oherwydd eu cyflawniadau ac maent yn dal i fod. Rydyn ni am nodi eu gweithredoedd mawr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol fel y gallant fod yn ffynhonnell gyson o anogaeth ac ysbrydoliaeth.

Mae hwn yn broject gwych ac mae ganddo ein cefnogaeth lwyr. Mae Caerdydd wedi cynhyrchu cynifer o chwaraewyr rygbi’r gynghrair gorau’r byd a chodi cerflun i gydnabod eu cyflawniadau eithriadol yw’r ffordd fwyaf addas nid yn unig o nodi eu cyfraniadau anhygoel, ond hefyd i fod yn ysbrydoliaeth ar gyfer y dyfodol. Nid oedd yr un ohonynt erioed wedi anghofio eu gwreiddiau, ond roeddent yn gallu gadael eu cymunedau eu hunain a defnyddio eu doniau chwaraeon sylweddol i wella nid yn unig eu henw da eu hunain, ond hefyd enw da Cymru.

Nod Diwrnod Cenedlaethol Treftadaeth Chwaraeon yw rhannu a dathlu’r dreftadaeth chwaraeon anhygoel sydd yn ein cymunedau. Mae Sporting Heritage yn annog unigolion a sefydliadau i ddefnyddio’r digwyddiad i godi ymwybyddiaeth o dreftadaeth chwaraeon a fu gynt heb ei chydnabod neu heb ddigon o gynrychiolaeth. Mae’r project hwn yn ymgorffori’r ethos hwnnw a bydd yn cychwyn rhannu llawer o lwyddiannau amrywiol am y tro cyntaf a hefyd yn creu straeon ysbrydoledig at y dyfodol.